Rhif y ddeiseb: P-06-1238

Teitl y ddeiseb: Gwahardd polystyren a phlastigau untro eraill

Geiriad y ddeiseb: Ar 3 Gorffennaf 2021, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwahardd amrywiaeth o blastigau untro, gan gynnwys polystyren, cyllyll a ffyrc plastig, gwellt yfed, cwpanau a hyd yn oed ffyn bach plastig gyda gwlân cotwm ar bob pen. Mae gwaharddiad llwyr ar draws pob un o’r aelod-wladwriaethau. Rwy’n credu y dylai Cymru ddilyn y camau hyn ac y dylen ni hefyd wahardd yr eitemau hyn.

Mae llawer o fwytai cludfwyd yng Nghymru yn dal i ddefnyddio cannoedd o gynhwysion polystyren bob dydd am mai dyma’r opsiwn rhataf.

Cefnogwch hyn os gwelwch yn dda.

Manylion ychwanegol:

Ni ellir ailgylchu polystyren ac mae’n cael effaith drychinebus ar yr amgylchedd; mae hefyd yn wenwynig pan gaiff ei adael yn yr amgylchedd.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Ceir cydnabyddiaeth eang bod materion amgylcheddol sylweddol yn codi yn sgil ymddygiadau amhriodol wrth ddefnyddio a gwaredu eitemau plastig untro fel cynwysyddion bwyd cludfwyd.  Yn ystod y Great British Beach Clean 2021 gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol, plastig neu bolystyren oedd 75 y cant o'r holl sbwriel a gasglwyd. 

Mewn adroddiad a gomisiwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, sef Options for Extended Producer Responsibility in Wales, amcangyfrifwyd bod tua 950 tunnell o wastraff pecynnu cludfwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn. Amcangyfrifir mai dim ond 8.5 y cant ohono sy’n cael ei ailgylchu Dywed yr adroddiad:  

We estimate that takeaway food packaging waste (which includes expanded polystyrene (EPS) containers) accounts for 1.6% of litter by weight on the ground and in litter bins, but accounts for a larger proportion overall by volume.  

Ymhlith y deunyddiau na ellir eu hailgylchu, un o’r rhai mwyaf trafferthus ohonynt yw polystyren ehangedig (EPS) neu bolystyren ewyn. Mae'n eithriadol o ysgafn ac yn ddeunydd insiwleiddio da, ac felly, mae'n effeithiol o ran cadw bwyd yn gynnes. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn nodi, yn ogystal â pheidio â chael ei ailgylchu’n gyffredin, ei fod: 

§    yn ysgafn ac felly'n hawdd ei symud gan y gwynt a’r dŵr; 

§    yn torri i fyny yn ddarnau bach, sy’n golygu ei fod yn anodd ei gasglu wrth lanhau; ac 

§    yn aros yn yr amgylchedd am amser hir iawn. 

Camau gweithredu y tu allan i Gymru

Daeth Cyfarwyddeb yr UE ar Blastigau Untro i rym yn 2019. O fis Gorffennaf 2021, mae rhai plastigau untro wedi’u gwahardd o farchnad yr Aelod-wladwriaethau.

Ym mis Mai 2019, fe wnaeth Ysgrifennydd yr Amgylchedd ar y pryd, Michael Gove, gadarnhau gwaharddiad ar wellt plastig, troellwyr diodydd, a ffyn cotwm â choesyn plastig yn Lloegr o fis Ebrill 2020. Cafodd hyn ei ohirio oherwydd pandemig Covid-19, ond daeth i rym ym mis Hydref 2020.  

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 18 Mawrth, fe wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru gyhoeddi ei bwriad i wahardd gwellt plastig, cyllyll a ffyrc plastig, cyfarpar polystyren i ddal bwyd a diod ac ystod o eitemau plastig untro eraill. Cafodd ymgynghoriad ar gynigion i leihau plastig untro yng Nghymru ei gynnal yn 2020. Mae’r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ailddatgan ei bwriad i ddeddfu i ddiddymu plastigau untro sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel.  

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer yr economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu, sy'n cynnwys fel un o’i phrif gamau y nod o "roi’r gorau’n raddol i ddefnyddio eitemau untro diangen". Mae hefyd yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau ar gyfer treth neu dâl ar gwpanau plastig a chynwysyddion bwyd tafladwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni nifer o ymrwymiadau Mwy nag Ailgylchu drwy Ddeddf yr Amgylchedd 2021 y DU. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd.

Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, ailadroddodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, uchelgais Llywodraeth Cymru i ddiddymu’r defnydd o’r plastigau untro sy’n cael eu taflu fel sbwriel amlaf, a thynnodd sylw at yr ymgynghoriad uchod.

Mae’r Gweinidog yn nodi bod cyflwyno Deddf y Farchnad Fewnol 2020  wedi cymhlethu pethau, gan gyfeirio at ansicrwydd ynghylch ymarferoldeb gwaharddiad, gan y gallai unrhyw blastigau untro sydd wedi’u gwahardd yng Nghymru ond a ganiateir neu a fewnforir i weddill y DU gael eu gwerthu yng Nghymru o hyd. Codwyd cwestiynau ynghylch effaith gwaharddiad ar fusnesau Cymru.

Fe wnaeth y Gweinidog dynnu sylw at yr her gyfreithiol barhaus i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, gan egluro bod Llywodraeth Cymru yn gallu gwahardd y defnydd o blastigau yng Nghymru, ond nid eu gwerthiant. Disgrifiodd y Gweinidog y sefyllfa fel ‘nonsens’, a dywedodd fod ‘sgwrs barhaus’ yn digwydd ar y mater. Fodd bynnag, mewn ymateb i’r ddeiseb hon, dywed y Gweinidog:

…rydym yn cymryd pob cam angenrheidiol i gyflwyno deddfwriaeth cyn gynted â phosibl yn ystod tymor y Senedd hon, i gyflwyno’r gwaharddiadau ar blastig untro.

3.     Camau Senedd Cymru

Trafododd Pwyllgor Deisebau’r Bumed Senedd nifer o ddeisebau â’r nod o leihau gwastraff plastig, gan gynnwys:

§    P-05-874 Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru 

§    P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy;  

§    P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru;

§    P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig; a

§    P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd ei adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i leihau gwastraff plastig. Roedd hyn yn cynnwys argymhelliad a ganlyn:

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru i leihau gwastraff a llygredd plastig, yn seiliedig ar y model ar gyfer lleihau allyriadau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi ei bod:

… wedi ymrwymo i roi amrywiaeth o fesurau deddfwriaethol ar waith er mwyn helpu i leihau, gwahardd neu gyfyngu ar werthiant nifer o eitemau plastig untro a gaiff eu taflu’n gyffredin i’r sbwriel, yn cynnwys ffyn cotwm, cwpanau ar gyfer diodydd a gwellt plastig.

Ar 9 Rhagfyr 2021, fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen â chynigion i wahardd eitemau plastig untro.

Sbwriel a gwastraff plastig oedd un o’r tri phrif fater y bu Senedd Ieuenctid blaenorol Cymru yn canolbwyntio arnynt.  Cyhoeddodd ei hadroddiad ym mis Tachwedd 2020 a gwnaed nifer o argymhellion, gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru "yn cymryd camau sylweddol ar frys i roi diwedd ar gynhyrchu plastigau untro".

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.